Neidio i'r prif gynnwy

Templedi ac Arweiniad

Cytunwyd ar dempledi WASPI gan Fwrdd Rheoli WASPI. Maen nhw wedi cael eu llenwi o flaen llaw gyda phenawdau sefydlog a thestun sylfaenol, ac mae’n dangos yn glir ble y dylid ychwanegu testun. Gan mai nod y templedi yw hybu cysondeb a sicrhau bod pethau perthnasol wedi cael eu hystyried, ni ddylech wneud unrhyw newidiadau i’r templedi. Dylech drafod unrhyw addasiadau a awgrymwyd gyda’ch tîm llywodraethu gwybodaeth a’u trosglwyddo i’r tîm WASPI (lle bo’n briodol).

Cynhyrchwyd arweiniad ar gyfer pob un o’r templedi, sy’n eich helpu i ddeall sut i lenwi’r templed perthnasol. Dyluniwyd y diagram llif hwn i’ch helpu i bennu ai ISP neu DDA fyddai’r templed priodol. 

 


 

Protocol Rhannu Gwybodaeth (ISP)


Mae ISPs yn helpu sefydliadau i amlinellu, mewn ffordd gyson a chlir, manylion y wybodaeth bersonol a rennir am resymau penodol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen amlygu sail gyfreithiol ar eu cyfer, ac maen nhw’n rhagdybio y cynhaliwyd Asesiad Effaith Diogelu Data / Asesiad Effaith Preifatrwydd cyn rhannu’r wybodaeth bersonol.

Mae ISP yn ategu rhannu gwybodaeth bersonol yn rheolaidd ac yn gyfartal rhwng Rheolyddion Data.

Templed ISP – Fersiwn 5.3 
Tabl Cyfeirio Gwybodaeth – Fersiwn 5 (fersiwn excel)
 
Canllaw ar Ddatblygu ISP - Bydd y ddogfen hon yn dweud wrthych beth ddylech chi ei ystyried cyn datblygu ISP a chanllaw cam wrth gam i lenwi’r templed ISP.

Canllawiau Sicrhau Ansawdd ar gyfer ISPs – Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r broses o sicrhau ansawdd ISP wedi i ddrafft terfynol gael ei gytuno.

Sicrhewch eich bod yn ymgynghori â’ch tîm llywodraethu gwybodaeth ac yn cyfeirio at yr arweiniad cyn datblygu unrhyw ISPs. 

 


 

Cytundeb Datgelu Data (DDA)


Bwriedir i DDAs gael eu defnyddio pan ddatgelir data personol (hynny yw, cael ei basio un ffordd) o un Rheolydd Data i’r llall am reswm penodol. Ni fwriedir i DDAs gael eu defnyddio mewn achosion pan fydd y datgeliad yn mynd o Reolydd Data i Brosesydd Data, ac nid ydynt yn disodli’r angen am gontractau priodol.

Templed y Cytundeb Datgelu Data

Arweiniad ar Ddatblygu DDA

Sicrhewch eich bod yn ymgynghori â’ch tîm llywodraethu gwybodaeth ac yn cyfeirio at yr arweiniad cyn datblygu unrhyw DDAs. 

 

Templedi WASPI newydd ar gyfer Trefniadau Rheolydd Data ar y Cyd a Threfniadau Prosesu Data

 

Yn dilyn ceisiadau gan randdeiliaid mae tîm Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wedi bod yn gweithio gyda Blake Morgan LLP i ddatblygu set newydd o dempledi y gellid eu mabwysiadu o dan safonau fframwaith WASPI.  Credwn y bydd y rhain yn helpu i wella dulliau cyson Cymru o ymdrin â safonau diogelu data.   
 
Rydym wedi datblygu templed o ddogfennau Cytundeb Prosesu Data a Chytundeb Rheolwr ar y Cyd a chanllawiau ategol ar gyfer pob un.  Mae'r rhain wedi'u cynllunio i gefnogi amrywiaeth o sefydliadau ac maent yn gwbl hyblyg gan na fyddent yn destun unrhyw brosesau sicrhau ansawdd WASPI.  


Mae'r templedi wedi'u datblygu gan WASPI mewn partneriaeth â Blake Morgan LLP.  Er y caiff sefydliadau eraill ddefnyddio’r templedi Datblygu Cytundeb Rheolydd ar y Cyd (JCA) a Deddf Diogelu Data (DPA), ni fydd gan WASPI na Blake Morgan unrhyw ddyletswydd gofal tuag at unrhyw endidau eraill ac mae holl atebolrwydd WASPI a Blake Morgan LLP i bob endid arall wedi’i eithrio drwy hyn. Cynghorir sefydliadau i barhau i geisio eu cyngor eu hunain ar gynnwys a defnydd y templedi hyn.

 

Cytundeb Prosesu Data

Cytundeb Prosesu Data

Arweiniad

 

Chytundeb Rheolwr ar y Cyd

Chytundeb Rheolwr ar y Cyd

Arweiniad