Neidio i'r prif gynnwy

Dogfennaeth y Fframwaith

Y Cytundeb

Mae’r Cytundeb yn set gyffredin o egwyddorion a safonau sy’n cynorthwyo rhannu gwybodaeth bersonol i gyflenwi gwasanaethau i bobl yng Nghymru. Mae llofnodi’r Cytundeb yn dangos ymrwymiad i gymhwyso’r egwyddorion hynny. Mae hyn wedi helpu i ddatblygu dull cyson a chynyddu hyder bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn ffordd gyfreithlon, ddiogel ac effeithlon.

Yn 2020, cyhoeddodd WASPI Strategaeth yn nodi ei gweledigaeth, ei nodau a'i hamcanion ar gyfer y pum mlynedd. Mae'r Strategaeth wedi'i hadolygu i sicrhau bod y fframwaith yn parhau i gyflawni ei uchelgeisiau a’i fod dal yn berthnasol i randdeiliaid. Roedd yr adolygiad yn adeiladu ar y gwaith presennol gan greu Strategaeth WASPI newydd ar gyfer 2022-2025.

Mae’r Cytundeb wedi cael ei ddiweddaru i fersiwn 5 (a gyhoeddwyd fis Awst 2018) i ystyried adborth gan ddefnyddwyr a newidiadau i ddeddfwriaeth, sef y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.


Mae derbyn a llofnodi’r Cytundeb yn wirfoddol, ond mae’r holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hannog i ymuno. I lofnodi’r Cytundeb, llenwch a dychwelwch y Datganiad Derbyn a Chyfranogi i dîm WASPI.

Cyfrifoldeb Prif Weithredwr neu Brif Swyddog y sefydliad yw mabwysiadu’r Cytundeb yn ffurfiol. Hefyd, gofynnir i chi enwebu unigolyn dynodedig – eich Swyddog Diogelu Data neu gyfwerth fel arfer – sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig dros sicrhau bod WASPI’n cael ei weithredu yn eich sefydliad. Mewn sefydliadau bach, efallai mai’r Prif Weithredwr neu’r Prif Swyddog fydd yr Unigolyn Dynodedig.

 


Templedi Safonol


Rhoddir yr egwyddorion a’r safonau a amlinellir yn y Cytundeb ar waith trwy ddatblygu a chyflwyno cytundebau rhannu data.
 
Ar hyn o bryd, mae dau math o dempled dan fframwaith WASPI:
 
Protocolau Rhannu Gwybodaeth (ISPs) – mae’r rhain yn cynorthwyo rhannu gwybodaeth bersonol yn rheolaidd a chyfartal rhwng rheolyddion data am reswm penodedig. 
 
Cytundebau Datgelu Data (DDAs) – mae’r rhain yn cynorthwyo datgelu gwybodaeth un ffordd o un rheolydd data i un neu fwy o reolyddion data am reswm penodedig.



Mae templedi ac arweiniad ar gael yma.