Mae sefydliadau sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag iechyd, addysg, diogelwch, atal troseddu a lles cymdeithasol pobl yng Nghymru wedi cofleidio Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) fel ffordd i’w helpu nhw i rannu gwybodaeth bersonol yn effeithiol ac yn gyfreithlon. Mae’r dull gwaith cyson sy’n cael ei hyrwyddo gan WASPI, a’r arfer da sy’n cael ei rannu trwy’r wefan hon, yn helpu sefydliadau i ddiwallu eu cyfrifoldebau diogelu data wrth iddynt ddatblygu modelau gwasanaeth cydweithredol mewn tirlun cyfreithiol cyfnewidiol.