Arfer Da
Manteision defnyddio Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)
Mae’r cyhoedd yn disgwyl ac yn derbyn bod darparwyr gwasnaethau cyhoeddus o bosibl yn rhannu eu gwybodaeth bersonol er mwyn cyflenwi gwasanaethau. Fodd bynnag, mae gan y cyhoedd ddisgwyliadau eraill, er enghraifft bod sefydliadau’n rhannu gwybodaeth yn ddiogel ac y byddant yn rhannu gwybodaeth berthnasol yn unig. Mae achosion trychinebus Climie a Soham yn enghreifftiau o fethiannau cenedlaethol proffil uchel, lle na rhannwyd gwybodaeth bersonol, ac maen nhw’n pwysleisio’r angen i weithredu’n gywir.
Mae gan bob sector – awdurdodau lleol, darparwyr GIG, yr heddlu, y gwasanaeth tân, ysgolion a sefydliadau gwirfoddol – safonau sefydliadol, codau moeseg proffesiynol a diwylliant sy’n gysylltiedig â gwybodaeth. Mae Fframwaith WASPI yn darparu dull gwaith ymarferol i rannu gwybodaeth bersonol, darparu safonau cyffredin a thempledi ar gyfer datblygu Protocolau Rhannu Gwybodaeth (ISPs) a Chytundebau Datgelu Data (DDAs). Nod cyffredinol y fframwaith yw cynorthwyo darparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau effeithiol wrth gydymffurfio â’u hymrwymiadau cyfreithiol – sef Deddf Diogelu Data 2018.
Manteision i sefydliadau
- Helpu i chwalu unrhyw rwystrau canfyddedig at rannu gwybodaeth bersonol.
- Helpu i orchfygu cymlethdodau a chamddealltwriaethau cyfreithiol.
- Codi hyder staff a helpu staff i wneud penderfyniadau hyddysg a lleihau unrhyw ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r hawl i rannu gwybodaeth bersonol ai peidio.
- Trwy annog cyhoeddi ISPs, hyrwyddo rhannu arfer da ac osgoi dyblygu.
- Cynorthwyo i gydymffurfio â Chod Ymarfer Rhannu Data’r Comisynydd Gwybodaeth.
- Hyrwyddo dull gwaith cyson a chydweithredol mewn maes sydd wedi bod yn heriol yn hanesyddol i sefydliadau fynd i’r afael ag ef.
- Lleihau’r risg o rannu gwybodaeth bersonol mewn ffordd anaddas ac annog rhannu diogel a phriodol.
Manteision i cyhoedd
- Hwyluso darpariaeth gwasanaethau gwell sy’n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn.
- O bosibl, lleihau’r angen i unigolion ddarparu’r un wybodaeth neu wybodaeth debyg i nifer o asiantaethau.
- Lleihau’r ddibyniaeth ar unigolion i ofyn am help neu gymorth trwy adael i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus ddarparu gwasanaethau mwy rhagweithiol.
- Darparu sicrwydd bod eu gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn ffordd strwythuredig a phriodol.