Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltu a'r tim

Cysylltwch â'r tîm drwy anfon neges e-bost at y  

waspiservice@wales.nhs.uk

 

Mae tîm Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn gweithio ar y cyd â'r pum grŵp sicrhau ansawdd rhanbarthol i sicrhau bod rhannu barn a syniadau yn agored ac yn onest yn digwydd, a fyddai'n helpu i gadw WASPI yn effeithiol ac yn berthnasol fel y ffordd i sefydliadau rannu gwybodaeth bersonol yng Nghymru, gan gynnwys arwain y gwaith parhaus o wella egwyddorion y Cytundeb drwy Fwrdd Rheoli WASPI.

 

Rydym yn parhau i ddarparu'r gwiriad cychwynnol yn rhan o'r broses sicrhau ansawdd ar gyfer Protocolau Rhannu Gwybodaeth ac yn cyhoeddi ISPs sicr i'r wefan i annog y dull 'gwneud unwaith a rhannu'.  Rydym ar gael i roi cyngor a chymorth ar ddatblygu ISP. Aelodau presennol y tîm yw:

 

Dave Parsons, Rheolwr Cod WASPI 
Mae gan Dave gyfrifoldeb dros ddatblygiad strategol a gweithrediad gweithredol gwasanaeth Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn ogystal â darparu cyngor a chymorth i brosiectau a rhaglenni Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Chymru gyfan ac i randdeiliaid eraill yn y sector iechyd yng Nghymru.

 


Marcus SandbergUwch Swyddog Llywodraethu Gwybodaeth

Gan weithio yn nhîm Llywodraethu Gwybodaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru, mae Marcus yn cefnogi fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth Cymru Gyfan yn ychwanegol at y cyfrifoldeb am gynnal a hyrwyddo fframwaith WASPI, gan gynnwys sicrhau bod dogfennaeth y fframwaith yn berthnasol ac yn gyfredol a sicrhau gwelliant parhaus a datblygiad y fframwaith.

 

Ben Tuckett, Swyddog Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth

Ben yw aelod diweddaraf tîm DHCW. Mae’n cefnogi’r grwpiau sicrhau ansawdd rhanbarthol, yn rheoli’r gweithrediadau o ddydd i ddydd yn seiliedig ar WASPI ac yn cynnal gwefan WASPI. Yn ogystal, mae Ben yn cynnal gwiriadau cychwynnol ar yr holl brotocolau rhannu gwybodaeth sy’n cyrraedd y tîm.

 

Cysylltwch â'r tîm drwy anfon neges e-bost at y tîm yn uniongyrchol neu drwy'r post i’r cyfeiriad canlynol:

 

Tîm WASPI

6ed Llawr, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Tŷ Glan-yr-Afon

21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen

Caerdydd

CF11 9AD