Neidio i'r prif gynnwy

WASPI ar Daith 2026

 

Ymunwch â ni wrth i ni deithio ledled Cymru ar gyfer WASPI ar Daith 2026!

 

 

Byddwn yn mynd i Wrecsam (30 Medi), Llandrindod (21 Hydref) a Chaerdydd (19 Tachwedd) wrth i ni geisio cysylltu â'n partneriaid ledled Cymru.

 

Byddwn yn cyflwyno agenda sy'n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Sesiwn fore gyda phartneriaid allweddol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am fframwaith WASPI – fel y fersiwn newydd o'n templedi, diweddariad ar y Cod Ymddygiad a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yn y sector addysg.
  • Sesiwn brynhawn lle byddwn yn caniatáu ichi ymgysylltu'n ymarferol â'r Porth Rhannu Gwybodaeth (ISG) cyn ei gyflwyno'n ehangach.
  • Cyfle i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol diogelu data/llywodraethu gwybodaeth eraill ynghylch rhannu gwybodaeth.

Rydym wrth ein bodd yn croesawu siaradwyr o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Tîm Rheoleiddio, Polisi a Phrosiectau), ochr yn ochr â chydweithwyr o Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru, a fydd yn arwain yr agenda.

 

Agenda:

Wrecsam – 30 Medi

Llandrindod - 21 Hydref

Caerdydd - 19 Tachwedd
 

 

Peidiwch â cholli'r cyfle i ddod i'n digwyddiadau a dysgu mwy am fframwaith WASPI a'r ISG.

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle:

WASPI ar Daith 2026

 

Ni chodir tâl am ddod i’r digwyddiad ac mae wedi'i anelu at weithwyr llywodraethu gwybodaeth proffesiynol, sy'n gweithio ar draws unrhyw sector yng Nghymru, sydd â diddordeb mewn dysgu mwy neu dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am fframwaith WASPI a datblygu a gweithredu’r ISG. Rydym am weld cymaint o’n partneriaid ag y gallwn felly nid ydym yn cyfyngu ar niferoedd y bobl sy’n mynychu ar hyn o bryd. Felly, anfonwch y digwyddiadau ymlaen at eich cydweithwyr neu rhannwch gyda phartneriaid eraill yr ydych chi’n meddwl yr hoffent fynychu.

 

Eisiau bod yn rhan o'r agenda? Rydym yn chwilio am bartneriaid i gydweithio â nhw i amlygu lle mae WASPI wedi bod o fudd iddyn nhw. Cysylltwch os oes gennych unrhyw syniadau: waspiservice@wales.nhs.uk

 

Bydd rhagor o fanylion i ddilyn yn agosach at y digwyddiadau ond os oes gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser, cysylltwch â ni: waspiservice@wales.nhs.uk