WASPI ar Daith 2026 - Cyhoeddi'r agenda

Mae'n bleser gennym gadarnhau'r agenda ar gyfer ein digwyddiadau WASPI ar Daith 2026.

 

Agenda:

 

Byddwn yn mynd i Wrecsam (30 Medi), Llandrindod (21 Hydref) a Chaerdydd (19 Tachwedd) wrth i ni geisio cysylltu â'n partneriaid ledled Cymru.

Rydym wrth ein bodd yn croesawu siaradwyr o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Tîm Rheoleiddio, Polisi a Phrosiectau), ochr yn ochr â chydweithwyr o Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru, a fydd yn arwain yr agenda.

Mae mynychu'r digwyddiad am ddim ac mae wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol llywodraethu gwybodaeth sy'n gweithio ar draws pob sector yng Nghymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am fframwaith WASPI a datblygiad a gweithrediad y Porth Rhannu Gwybodaeth (ISG), neu dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf amdanynt. Hoffem groesawu cymaint o'n partneriaid â phosibl ac nid ydym yn cyfyngu ar nifer y bobl sy'n mynychu ar hyn o bryd. Mae croeso i chi anfon y gwahoddiad hwn ymlaen at gydweithwyr neu ei rannu gyda phartneriaid eraill a allai fod â diddordeb mewn mynychu.

 

Cofrestrwch am ddim nawr i sicrhau eich lle: WASPI ar Daith 2026

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â Gwasanaeth WASPI: waspiservice@wales.nhs.uk