Templedi WASPI newydd ar gyfer Trefniadau Rheolydd Data ar y Cyd a Threfniadau Prosesu Data
Yn dilyn ceisiadau gan randdeiliaid mae tîm Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wedi bod yn gweithio gyda Blake Morgan LLP i ddatblygu set newydd o dempledi y gellid eu mabwysiadu o dan safonau fframwaith WASPI. Credwn y bydd y rhain yn helpu i wella dulliau cyson Cymru o ymdrin â safonau diogelu data.
Rydym wedi datblygu templed o ddogfennau Cytundeb Prosesu Data a Chytundeb Rheolwr ar y Cyd a chanllawiau ategol ar gyfer pob un. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i gefnogi amrywiaeth o sefydliadau ac maent yn gwbl hyblyg gan na fyddent yn destun unrhyw brosesau sicrhau ansawdd WASPI.
Mae'r templedi wedi'u datblygu gan WASPI mewn partneriaeth â Blake Morgan LLP. Er y caiff sefydliadau eraill ddefnyddio’r templedi Datblygu Cytundeb Rheolydd ar y Cyd (JCA) a Deddf Diogelu Data (DPA), ni fydd gan WASPI na Blake Morgan unrhyw ddyletswydd gofal tuag at unrhyw endidau eraill ac mae holl atebolrwydd WASPI a Blake Morgan LLP i bob endid arall wedi’i eithrio drwy hyn. Cynghorir sefydliadau i barhau i geisio eu cyngor eu hunain ar gynnwys a defnydd y templedi hyn.