Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn falch o groesawu Arolygiaeth Gofal Cymru! !
Yn ddiweddar mae Tîm WASPI wedi derbyn datganiad wedi’i lofnodi i’r Cytundeb gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Mae Tîm WASPI yn edrych ymlaen at weithio’n agos gydag AGC dros y misoedd nesaf i’w cefnogi i ddefnyddio templedi Protocol Rhannu Gwybodaeth WASPI a’r prosesau sicrhau ansawdd, a fydd yn gwella hyder rhanddeiliaid sy’n ymwneud ag arferion rhannu gwybodaeth.