Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant WASPI yn cael ei gydnabod gan arbenigwyr yn y diwydiant

Mae’r tîm WASPI yn falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau #RISK 2023.  Mae’r tîm ar y rhestr fer ar gyfer y wobr ‘Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn’ a’r wobr ‘Tîm Llywodraethu’r Flwyddyn’.

 

Mae’n anrhydedd i gael ein henwebu ar gyfer y gwobrau hyn ochr yn ochr â thimau llywodraethu a phreifatrwydd eraill o bob rhan o’r DU.

 

Hoffai’r tîm WASPI ddiolch i’n holl gydweithwyr Llywodraethu Gwybodaeth sydd wedi llunio’r fframwaith a datblygu WASPI yn llwyddiannus.  Mae ein henwebiad yn dyst i’r holl gefnogaeth y mae aelodau’r cytundeb yn ei rhoi i WASPI a’i ddatblygiad parhaus.