Neidio i'r prif gynnwy

Fideos Hyfforddi WASPI Ar Gael Nawr!

Mae'r fideo cyntaf yn fideo rhagarweiniol byr i WASPI a'r Cytundeb - Yn amlinellu fframwaith WASPI a sut i fod yn aelod o'r Cytundeb. Mae'r fideo hwn wedi'i gynllunio i alluogi gweithwyr mewn sefydliadau i weld a dysgu sut beth yw WASPI neu i alluogi sefydliadau sydd am lofnodi'r Cytundeb i gael rhagor o wybodaeth cyn gwneud hynny.

 

 

Mae ein hail fideo yn manylu ar sut i greu Protocol Rhannu Gwybodaeth (ISP) a sicrhau ansawdd ISPs gan ddefnyddio fframwaith WASPI. Mae'r fideo yn ategu'r dogfennau canllaw sydd ar gael ar wefan WASPI i roi dealltwriaeth i awduron a phartneriaid ISPs o'r broses sicrhau ansawdd.

 

 

Mae tîm WASPI yn croesawu adborth ar y fideos yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer cynnwys fideos pellach a allai gefnogi eu sefydliadau