Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Ymgynghori ar God Ymddygiad Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)

Rydym am gael eich barn ar gynnig i fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wneud cais i ddod yn God Ymddygiad cymeradwy gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) o dan ddarpariaethau erthygl 40 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi sut y byddai gwneud cais i’r fframwaith WASPI ddod yn God Ymddygiad ICO cymeradwy yn gwella’r rheolaethau presennol gyda mwy o gymhwyso a chysondeb o weithgareddau rhannu data yn ogystal â darparu sicrwydd atebolrwydd llywodraethu da.

Rydym yn ymgynghori ar y canlynol:

  • a yw'r cod arfaethedig yn glir ac yn gwella'r fframwaith WASPI presennol.
  • a yw gofynion darpar aelodau’r cod, sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y cod yn cydymffurfio â disgwyliadau cod ymddygiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yn glir.
  • a fyddai sefydliadau'n bwriadu ymuno â'r cod.

Cliciwch yma i weld y dudalen ymgynghori sy'n cynnwys y ddogfen ymgynghori a Chod Ymddygiad arfaethedig WASPI.

Rydym yn croesawu eich adborth a byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu hwn yn ehangach o fewn eich sefydliadau i sicrhau ein bod yn cael cymaint o adborth â phosibl gan y rhai sy’n ymwneud â rhannu data personol yn rheolaidd a datblygu Protocolau Rhannu Gwybodaeth. 

Mae manylion ar sut i roi adborth wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori neu gellir eu cyflwyno drwy’r ffurflen ar-lein yma.

Rhaid cyflwyno pob ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 28/03/2023

Mae croeso i chi gysylltu â thîm WASPI, os oes gennych unrhyw ymholiadau - waspiservice@wales.nhs.uk