Neidio i'r prif gynnwy

Arwain y Ffordd o Ben Llŷn: Carreg Filltir Ddigidol Ysgol Edern

Nid adran fawr o'r llywodraeth nac sefydliad iechyd oedd y sefydliad cyntaf erioed yng Nghymru i fabwysiadu'r broses gofrestru ddigidol newydd ar gyfer WASPI. Ysgol Edern oedd hi—ysgol fach, wledig wedi'i lleoli ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngwynedd, dan arweiniad y Pennaeth Ilan Williams.

 

Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut mae WASPI yn helpu cydweithio ac yn hwyluso rhannu gwybodaeth ddiogel a chyfreithlon ar draws pob math o sefydliadau, mawr neu fach, sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Drwy ddod y llofnodwr cyntaf i ddefnyddio'r system newydd ei digideiddio, mae Ilan Williams ac Ysgol Edern wedi dangos bod diogelu data cadarn a lles plant yn mynd law yn llaw a dylai fod yn flaenoriaeth i bob ysgol yng Nghymru.

 

Bwriadwyd symud fframwaith WASPI i ffwrdd o fformatau papur trwsgl i brosesau digidol symlach i gael gwared ar rwystrau biwrocrataidd. Mae Ysgol Edern wedi profi'n union pam mae'r newid digidol hwn mor hanfodol. Drwy lofnodi'r Cytundeb, mae Ysgol Edern wedi dangos bod y Cytundeb yn gwneud gwahaniaeth aruthrol wrth ddiogelu plant Cymru.

 

Dywedodd Ilan Williams "Rydym yn hynod falch o fod y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio'r broses gofrestru ddigidol newydd. Fel ysgol wledig, mae Ysgol Edern wrth wraidd ein cymuned ac mae gennym rôl rheng flaen wrth ddiogelu a sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth gywir. Mae hyn yn aml yn galw ar ysgolion i weithio'n agos gyda'n partneriaid mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llofnodi Cytundeb WASPI yn rhoi'r hyder inni rannu gwybodaeth hanfodol yn gyfreithiol, yn ddiogel, a heb oedi".

 

Wrth siarad am y broses gofrestru ddigidol newydd, dywedodd Ilan ei bod yn "syml iawn, gan ganiatáu inni ffurfioli ein hymrwymiad i WASPI mewn munudau. Rydym wedi arloesi hyn, felly gadewch i ni obeithio y bydd pob ysgol yn dilyn Ysgol Edern ac yn cofrestru!"

 

Gall ysgolion gymryd rhan yn y Cytundeb yma.

 

Mae'r llun yn dangos y Pennaeth Ilan Williams gyda Louise Jones, Swyddog Diogelu Data Ysgolion Gwynedd.