Cofrestr Protocolau Rhannu Gwybodaeth
Mae'r Gofrestr Protocolau Rhannu Gwybodaeth (ISPs) wedi'i datblygu i roi trosolwg clir a hygyrch i Sefydliadau sy'n Cymryd Rhan yn WASPI ac aelodau'r cyhoedd o'r holl ISPs sydd wedi'u creu a'u hansawdd wedi'i sicrhau drwy Fframwaith WASPI.
Mae dyluniad gwell y gofrestr yn ei gwneud hi'n haws nag erioed i archwilio trefniadau rhannu gwybodaeth. Gall defnyddwyr gwneud y canlynol yn gyflym:
- Chwilio am ISPs sy'n cynnwys sefydliad penodol
- Nodi pa sefydliadau sy'n rhan o gytundeb rhannu gwybodaeth penodol
Mae'r gofrestr yn cynnwys y canlynol:
- Y rhif adnabod ISP a neilltuwyd gan yr ISG
- Enw'r ISP, gyda hyperddolen uniongyrchol i'r fersiwn PDF a gyhoeddwyd
- Y Grŵp Sicrhau Ansawdd Rhanbarthol sy'n rhan o'r broses sicrhau
- Y sefydliadau partner sy'n cymryd rhan yn y trefniant rhannu gwybodaeth
- Y dyddiad y cymeradwywyd yr ISP gan y Grŵp Sicrhau Ansawdd Rhanbarthol
Bydd y Gofrestr ISPs yn cael ei hadolygu a'i diweddaru bob chwarter i sicrhau bod y wybodaeth yn parhau i fod yn gyfredol ac yn gywir.
Mae'r gofrestr gyfredol yn gywir ar: 30/06/2026.
Mae gwaith yn parhau gyda'r gofrestr hon i'w gwella ymhellach i gynnwys, yn y pen draw, Ysgolion, Meithrinfeydd, Darparwyr Gofal Plant a Meddygon Teulu. Byddwn yn cyfathrebu ymhellach pan fydd unrhyw nodweddion ychwanegol ar gael.