Cofrestr Protocolau Rhannu Gwybodaeth
Er hwylustod, mae’n bosibl gweld pob ISP sydd wedi’i chymeradwyo, pob ISP sydd wrthi’n cael ei datblygu a chytundebau eraill ar ein Cofrestr.
Mae’r Gofrestr yn cynnwys hidlwr i’ch galluogi chi i bori’n fwy effeithiol yn seiliedig ar deitl, rhanbarth, statws ac ati. Mewn achosion lle mae’r tîm Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wedi cael ei hysbysu, mae’r Gofrestr yn cynnwys ISPs a Chytundebau sydd wrthi’n cael eu datblygu, cytundebau sydd wedi cael eu cymeradwyo o ran ansawdd a’r rheiny sydd wedi cael eu cyhoeddi. Sylwer bod yr holl ISPs a gyhoeddir wedi bod trwy’r broses sicrhau ansawdd, ond dylai pob sefydliad sicrhau eu bod yn llofnodi ISPs y maent yn bartneriaid iddynt.
Dylai sefydliadau sicrhau eu bod yn defnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r templed wrth boblogi ISP. Mae Fersiwn 5 o'r templedi bellach ar gael.
Gofynnwn i chi hysbysu’r tîm WASPI am unrhyw ISPs sydd wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.