WASPI a IRMS
Daeth Gwasanaeth WASPI i’r amlwg yng Nghynhadledd Cymdeithas Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion 2025 yn Birmingham yr wythnos hon (18-20 Mai). Casglodd y digwyddiad mawreddog hwn arbenigwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat i fynd i’r afael â materion allweddol rheoli data, llywodraethu gwybodaeth, ac effaith gymdeithasol defnyddio gwybodaeth a data yn effeithiol.
Traddododd Dave Parsons, Rheolwr Cod WASPI, gyflwyniad a gafodd dderbyniad da iawn yn y gynhadledd am oresgyn y rhwystrau i rannu data personol. Cynhaliodd Gwasanaeth WASPI arddangosfa a ymwelwyd â hi gan lu o gynrychiolwyr.
Roedd y gynhadledd yn gyfle arwyddocaol i fframwaith WASPI, sy’n dathlu ei 20fed flwyddyn, ennill cydnabyddiaeth bellach y tu allan i Gymru am ei rôl ganolog wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar gleifion a defnyddwyr gwasanaethau, trwy rannu data personol yn effeithiol ac yn gyfreithlon.