Gwobrau Pen-blwydd WASPI yn 20
Mae llwyddiant dwfn WASPI wedi'i seilio ar ymgysylltiad ac ymdrech ei randdeiliaid.
Dyma pam rydym yn gyffrous i gynnal Gwobrau Pen-blwydd WASPI yn 20 oed ar 10 Tachwedd 2025. Bwriad y Gwobrau yw cydnabod ymroddiad unigolion a thimau sydd wedi hyrwyddo WASPI dros y ddau ddegawd diwethaf.
Mae'r seremoni wobrwyo yn elfen ganolog o ddathliadau pen-blwydd WASPI yn 20 oed, wedi'i chynllunio i gydnabod yr effeithiau cadarnhaol dwys y mae WASPI wedi'u cael ac i arddangos ei rôl allweddol wrth hyrwyddo rhannu data personol effeithiol a chyfreithlon, gan sicrhau canlyniadau gwell yn y pen draw i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth ledled Cymru.
Bwriad categorïau’r gwobrau yw tynnu sylw at gyfraniadau a wnaed gan randdeiliaid ac mae pob gwobr yn arwyddocaol oherwydd ei bod yn tynnu sylw at agwedd hanfodol ar lwyddiant y Cytundeb dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae’r pedwar categori gwobrau wedi’u cynllunio i amlygu cyfraniadau rhanddeiliaid i rannu data yng Nghymru, ac mae pob gwobr yn tynnu sylw at agwedd hanfodol ar lwyddiant y Cytundeb dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Dyma'r categorïau:
- Gwobr Cydweithio Rhagorol
- Gwobr Arwr Di-glod
- Gwobr Eiriolwr WASPI
- Gwobr Rhagoriaeth er gwaethaf Anawsterau
Bydd pob categori gwobr yn cael ei egluro’n fanwl er mwyn eich helpu gyda’r broses enwebu.
Rydym yn eich gwahodd yn gynnes i enwebu unigolion neu dimau sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at rannu data o fewn eu sefydliadau a’u partneriaid, gan ddangos sut mae eu gwaith wedi defnyddio fframwaith WASPI yn strategol i ysgogi newid cadarnhaol.
Enwebwch drwy ddefnyddio'r ffurflen yma