Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau 20fed Pen-blwydd WASPI 2025 Enwebiadau Nawr Ar Agor!

Mae 2025 yn garreg filltir bwysig: 20fed pen-blwydd Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru. 

Mae’r achlysur arbennig hwn yn gyfle hollbwysig i fyfyrio ar, a dathlu, dau ddegawd o gydweithio ymroddedig yn hyrwyddo rhannu gwybodaeth ac egwyddorion llywodraethu gwybodaeth ledled Cymru.

 

Dyma pam rydym yn gyffrous i gynnal Digwyddiadau a Gwobrau Pen-blwydd WASPI yn 20 oed ar 10 Tachwedd 2025. Bwriad y Gwobrau yw cydnabod ymroddiad unigolion a thimau sydd wedi hyrwyddo WASPI dros y ddau ddegawd diwethaf.

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Pen-blwydd 20fed WASPI!

 

Dyma'ch cyfle i gydnabod yr unigolion eithriadol hynny sydd wedi hyrwyddo WASPI ac wedi newid diwylliant diogelu data yng Nghymru am byth.

Am ragor o wybodaeth am gategorïau gwobrau ac i gyflwyno'ch enwebiadau, ewch i dudalen Gwobrau Pen-blwydd 20fed WASPI