Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad Cau Gwobrau WASPI wedi'i Ymestyn

Mae'r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau Gwobrau Pen-blwydd WASPI yn 20 oed wedi'i ymestyn i 30 Medi.

 

Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn cael y cyfle i enwebu unigolion, timau a mentrau sydd wedi bod yn rhan o WASPI/rhannu gwybodaeth yn y gorffennol ac yn y presennol, er mwyn dathlu'n llawn y cyfraniad y mae partneriaid wedi'i wneud at rannu gwybodaeth effeithiol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.

 

Mae'r seremoni wobrwyo yn elfen ganolog o ddathliadau pen-blwydd WASPI yn 20 oed, wedi'i chynllunio i gydnabod yr effeithiau cadarnhaol dwys y mae WASPI wedi'u cael ac i arddangos ei rôl allweddol wrth hyrwyddo rhannu data personol effeithiol a chyfreithlon, gan sicrhau canlyniadau gwell yn y pen draw i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth ledled Cymru.