Digwyddiad Cydweithio, Diwylliant a Dathlu WASPI – Cyhoeddi'r agenda
Mae’n bleser gennym gadarnhau'r agenda ar gyfer ein digwyddiad Cydweithio, Diwylliant a Dathlu WASPI ar 10 Tachwedd 2025.
WASPI Cydweithio, Diwylliant, Dathlu Agenda 2025
Bydd yr achlysur arbennig hwn yn cynnig cyfle hollbwysig i fyfyrio ar, a dathlu, ugain mlynedd o gydweithio ymroddedig yn hyrwyddo rhannu gwybodaeth ac egwyddorion llywodraethu gwybodaeth er budd pobl Cymru.
Bydd y digwyddiad yn berthnasol i'n holl randdeiliaid, gan gynnwys arweinwyr y diwydiant ym maes diogelu data a llywodraethu gwybodaeth, gydag areithiau allweddol gan John Edwards, y Comisiynydd Gwybodaeth a Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.
Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda gwobrau WASPI 20, sydd â'r bwriad o gydnabod ymroddiad unigolion a thimau sydd wedi hyrwyddo WASPI a rhannu gwybodaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae enwebiadau ar gyfer y gwobrau ar agor tan 30 Medi.
Cadwch lygad am eich gwahoddiadau i'r digwyddiad. Bydd y rhain yn cael eu rhyddhau cyn bo hir.