Cyhoeddi Panel Beirniadu ar gyfer Gwobrau WASPI
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein panel beirniadu ar gyfer Gwobrau Pen-blwydd WASPI yn 20 oed.
Cynhelir y gwobrau fel rhan o'r digwyddiad a gynhelir ar 10 Tachwedd 2025, a fydd yn dathlu dau ddegawd o'r fframwaith.
Bwriad y gwobrau yw cydnabod ymroddiad unigolion a thimau sydd wedi hyrwyddo WASPI dros yr ugain mlynedd diwethaf.
Bydd y panel beirniadu yn ystyried yr holl enwebiadau a gyflwynwyd, a bydd yn cynnwys Gwasanaeth WASPI, cynrychiolwyr Cadeiryddion y grwpiau sicrhau ansawdd rhanbarthol, cydweithwyr o Lywodraeth Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Am ragor o wybodaeth am y gwobrau, a sut i enwebu, ewch i dudalen we Gwobrau Pen-blwydd WASPI yn 20 oed.