Y landlord cymdeithasol cofrestredig cyntaf i ymuno â grŵp sicrhau ansawdd WASPI rhanbarthol.
Mewn cam pwysig, yn dilyn digwyddiad partneriaeth WASPI llwyddiannus yn Wrecsam, mae Adra, landlord cymdeithasol cofrestredig mwyaf Gogledd Cymru, wedi ymuno â’r Grŵp Sicrwydd Ansawdd WASPI rhanbarthol, gan nodi datblygiad pwysig yn ymgysylltiad partneriaid â fframwaith WASPI yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Adra yw’r landlord cymdeithasol cofrestredig cyntaf yng Nghymru i ymuno â grŵp Sicrhau Ansawdd WASPI, gan nodi carreg filltir fawr arall yn hanes WASPI, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed eleni.
Mae’r Grwpiau Sicrhau Ansawdd yn rhan annatod o fframwaith WASPI, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo rhannu gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon ac yn effeithiol. Mae eu gwaith yn hollbwysig wrth sicrhau cytundebau rhannu gwybodaeth cadarn a meithrin cydweithio gwell ymhlith partneriaid.
Mae’n galonogol gweld sefydliadau fel ADRA yn ymuno â’r grwpiau sicrhau ansawdd i rannu eu profiad a’u harbenigedd gwerthfawr. Gan gyfeirio at y datblygiad cadarnhaol hwn, dywedodd Dave Parsons, Rheolwr Cod WASPI, ei bod hi’n “wych gweld aelodaeth y Grwpiau Sicrhau Ansawdd rhanbarthol yn ehangu gan y bydd hyn yn arwain at rannu gwybodaeth gwell, cydweithio gwell a gwasanaethau gwell sy’n canolbwyntio ar y person ledled Cymru.”