WASPI Templedi
Yn dilyn adborth a gasglwyd trwy arolygon blaenorol yn ogystal â cheisiadau gan randdeiliaid dros y 18 mis diwethaf, mae tîm Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wedi bod yn gweithio gyda Blake Morgan LLP i ystyried datblygu templedi newydd y gellid eu mabwysiadu o dan safonau fframwaith WASPI. Credwn y bydd y rhain yn helpu i wella dulliau cyson Cymru o ymdrin â safonau diogelu data.
Joint Controller Agreement: WASPI JCA Template (DRAFT)v.2.1.docx (live.com)
Data Processing Agreement: WASPI Data Processing Agreement template (DRAFT)v.2.1.docx (live.com)
Rydym wedi datblygu templed drafft ar gyfer Cytundeb Prosesu Data a Chytundeb Rheolydd ar y Cyd. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i gefnogi amrywiaeth o sefydliadau ac maent yn gwbl hyblyg gan na fyddent yn destun prosesau sicrhau ansawdd WASPI. Er mwyn rhoi hyder y bydd y templedi yn parhau i fod yn gyfredol, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Blake Morgan LLP yn flynyddol i adolygu'r templedi hyn i sicrhau eu bod yn parhau i fodloni gofynion deddfwriaethol.
Sylwch, mae'r templedi WASPI hyn a ddarperir wedi'u cynllunio i'w defnyddio gan ystod eang o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i fframwaith WASPI. O ganlyniad, ni fyddwn yn ystyried ceisiadau i bersonoli’r templedi i weddu i’ch sefydliad neu sector. Fodd bynnag, gan nad yw'r templedi hyn yn destun broses Sicrhau Ansawdd WASPI, mae sefydliadau'n rhydd i addasu'r rhain, mewn cytundeb â'r sefydliadau partner sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth, i weddu i'w hanghenion.
Byddem yn croesawu eich barn ar y templedi arfaethedig a byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg byr cyn 13 Tachwedd 2023.
Yn dilyn adolygiad o'r adborth bydd tîm WASPI yn cynhyrchu fersiynau terfynol o'r templedi hyn gyda chanllawiau cysylltiedig.
Mae croeso i chi gysylltu â thîm WASPI, os oes gennych unrhyw ymholiadau - waspiservice@wales.nhs.uk