WASPI a Gwobrau PICCASO
Mae tîm Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI), rhan o Iechyd a Gofal Digidol Cymru, wedi cyflawni camp arbennig drwy gyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair Gwobr PICCASO Ewrop 2025.
Mae’r gydnabyddiaeth arwyddocaol hon gan wobrau blaenllaw Ewrop ym maes preifatrwydd data, diogelwch gwybodaeth a chydymffurfiaeth yn tanlinellu gwaith arloesol WASPI a’i ymrwymiad i ragoriaeth mewn rhannu data’n gyfrifol ers dros 20 mlynedd.
Mae WASPI wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau hynod gystadleuol “Gwobr y Rhaglen Preifatrwydd Orau”, “Rhaglen Llywodraethu Data a Rheoli Cofnodion y Flwyddyn”, a “Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn: Cwmni Cyhoeddus”. Mae’r tair anrhydedd hon yn dyst i ragoriaeth gynhwysfawr WASPI, ac yn cydnabod ei fframwaith strategol, ei fodel gweithredu cadarn, a gwaith y tîm wrth hyrwyddo rhannu data.
Daw’r enwebiadau hyn yn ystod blwyddyn pen-blwydd WASPI yn 20 oed, pan mae’r tîm yn dathlu’r newid cadarnhaol mewn diwylliant a chydweithio y mae WASPI wedi’i gyflawni dros yr amser hwn. Mae WASPI wedi helpu sefydliadau yng Nghymru i rannu gwybodaeth bersonol yn effeithiol ac yn gyfreithlon mewn meysydd fel iechyd, addysg, diogelwch ac atal troseddu.
Ymatebodd Dave Parsons, Rheolwr Gwasanaeth WASPI, i’r enwebiadau drwy ddweud bod “yr enwebiadau yn gyflawniad mawr ac yn cydnabod ymrwymiad Gwasanaeth WASPI a rhanddeiliaid WASPI dros 20 mlynedd i sicrhau bod ei effaith o ran chwalu rhwystrau i rannu data cyfreithlon yn parhau mor gryf ag erioed.” Y ffaith amdani yw bod WASPI yn mynd o nerth i nerth.”
Mae’r ymrwymiad hwn i arloesi sy’n canolbwyntio ar y dinesydd trwy ddiogelu data cadarn wrth wraidd llwyddiant WASPI. Bydd enillwyr Gwobrau PICCASO Ewrop 2025 yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Llundain ar 11 Tachwedd 2025, mewn dathliad o gyflawniadau ar y cyd gan y gymuned preifatrwydd a diogelu data yn Ewrop.
Mae tîm WASPI yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad, yn falch o’r gydnabyddiaeth arwyddocaol hon ac yn falch o arwain y ffordd o ran rhannu data diogel a moesegol er budd pobl Cymru.
I ddysgu mwy am Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru a’i waith pwysig, ewch i waspi.llyw.cymru