Neidio i'r prif gynnwy

WASPI a DPAS

Yn ddiweddar, siaradodd Dave Parsons, Rheolwr Cod WASPI yng nghynhadledd Engage, Educate, Empower 2025 y Data Privacy Advisory Service, ym Mryste, gydag arweinwyr mewn moeseg ac ymarfer diogelu data.

Edrychodd Dave ar naws ôl troed digidol sefydliadau ac unigolion mewn sesiwn ryngweithiol a oedd yn golygu bod y mynychwyr yn estyn am eu ffonau a'u dyfeisiau i gael cipolwg ar eu hôl troed digidol eu hunain.

Trafododd Dave hefyd rôl ganolog rhannu data effeithiol, cyfreithlon a theg trwy Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru, y mae DHCW yn ei reoli. Roedd ymwneud DHCW â'r gynhadledd yn cyd-fynd â negeseuon allweddol y dydd, a oedd yn ymwneud â'r angen i rymuso unigolion trwy ddefnydd moesegol a theg o dechnolegau mewn byd lle mae mor hawdd i sefydliadau ac unigolion faglu i arferion sy'n cyfyngu ar hawliau pobl, yn aml yn anfwriadol.

Roedd Marcus, Ben a Huw o Wasanaeth WASPI ar gael drwy gydol y dydd i hyrwyddo fframwaith WASPI, ateb cwestiynau gan y mynychwyr a thrafod yr adnoddau sydd ar gael trwy fframwaith WASPI.