Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn PICCASO WASPI : Cwmni Cyhoeddus 2025
Mynychodd y gwasanaeth WASPI Wobrau PICCASO (Preifatrwydd, Diogelwch Gwybodaeth, Cydymffurfiaeth, Diwylliant, Ymwybyddiaeth, Strategaeth a Gweithrediadau) Ewrop ar 11 Tachwedd 2025 ar ôl cael eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer tair Gwobr - "Gwobr y Rhaglen Preifatrwydd Orau," "Rhaglen Llywodraethu Data a Rheoli Cofnodion y Flwyddyn," a "Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn: Cwmni Cyhoeddus".
Roedden ni wrth ein bodd yn cael ein cyhoeddi fel enillydd “Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn” PICCASO Ewrop: gwobr “Cwmni Cyhoeddus”.
Dywedodd Dave Parsons, Rheolwr Cod WASPI "Ni fyddai'r wobr hon yn bosibl heb ein holl bartneriaid gwych a gefnogodd ein fframwaith".
Ychwanegodd Marcus Sandberg, Rheolwr Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth, "mae ennill gwobr Ewropeaidd fawreddog yn cynrychioli'r holl waith caled ac ymdrech y mae partneriaid wedi'i wneud i WASPI a rhannu gwybodaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf".