Strategaeth WASPI 2025-2028
Mae Gwasanaeth WASPI yn falch iawn o grybwyll cyhoeddi ei Strategaeth tair blynedd newydd. Mae Strategaeth 2025-2028 yn nodi ein nodau, ein gweledigaethau a'n hamcanion ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Diolchwn i Lywodraeth Cymru a'r Comisiynydd Gwybodaeth am eu datganiadau a gynhwysir yn y Strategaeth ac a amlinellir isod:
“Mae WASPI wedi bod yn rhan amhrisiadwy o’n hymateb i bandemig Covid-19 a’n hymateb Cenedl Noddfa i’r rhyfel yn Wcráin, gan ddarparu arferion da cydnabyddedig a hyblygrwydd a’n galluogodd ni a’n partneriaid i ymateb yn gyflym a chyda hyder bod data’n cael ei rannu’n briodol ac yn ddiogel. Bydd WASPI yn parhau i’n cynorthwyo i gyflawni ein hymrwymiadau o dan y Strategaeth Ddigidol i Gymru er mwyn sicrhau bod rhwystrau i rannu data yn cael eu dileu, er budd dinasyddion.” Llywodraeth Cymru
“Wrth i ni archwilio ymhellach i’r manteision y gall digideiddio, deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg data eu cynnig i ddefnyddwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, mae’n werth ystyried bod diogelu data yn parhau i fod yr un mor ganolog i lwyddiant mentrau sy’n defnyddio gwybodaeth bersonol ag yr oedd 20 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd WASPI. Fel y dywedodd fy rhagflaenwyr, mae WASPI yn helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy ddarparu proses glir a rennir, sy’n eu tywys drwy’r camau allweddol i gydymffurfio â deddfwriaeth, yn ogystal â chefnogi’r tryloywder a’r atebolrwydd sy’n hanfodol i feithrin a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn nefnydd data’r sector cyhoeddus. Diolch yn fawr WASPI.” John Edwards, Comisiynydd Gwybodaeth
Gellir darllen y Strategaeth yma
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Strategaeth WASPI, cysylltwch â ni ar waspiservice@wales.nhs.uk