Gwobrau Rhwydwaith Llywodraethu Gwybodaeth Strategol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol (SIGN) 2026.
Mae Gwasanaeth WASPI yn falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer sawl gwobr yng Ngwobrau Blynyddol Rhwydwaith Llywodraethu Gwybodaeth Strategol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol (SIGN) 2026.
Mae'r Gwasanaeth wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Tîm Llywodraethu Gwybodaeth y Flwyddyn gyda Dave Parsons, Rheolwr Cod WASPI, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Gweithiwr Proffesiynol Llywodraethu Gwybodaeth y Flwyddyn a Phencampwr Rhannu Gwybodaeth y Flwyddyn.
Mae'r Gwobrau hyn yn cydnabod effaith fframwaith WASPI wrth wella rhannu gwybodaeth a chefnogi gofal gwell sy'n canolbwyntio ar y claf ar draws y GIG a'r sector iechyd a gofal ehangach.
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 23 Mawrth 2026.