Digwyddiad Partneriaeth WASPI Wrecsam
Roedd digwyddiad partneriaeth WASPI a gynhaliwyd yn Wrecsam ar 8fed Mai 2025 yn llwyddiant ysgubol, a barnu wrth yr adborth hynod gadarnhaol gan y mynychwyr. Pwrpas y digwyddiad oedd pwysleisio pwysigrwydd partneriaeth a chydweithio, ac roedd yn ysbrydoledig gweld yr ysbryd cydweithredol ar waith yn y digwyddiad.
Adroddodd y cyfranogwyr yn unfrydol eu bod yn teimlo'n llawer mwy hyderus wrth ddefnyddio WASPI i hwyluso rhannu gwybodaeth ac adroddasant eu bod wedi cael dealltwriaeth ddyfnach o'i rôl hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Dangosodd digwyddiad Wrecsam yn bwerus sut mae ymgysylltu'n weithredol â'r broses sicrhau ansawdd yn dod â manteision pendant, nid yn unig i'r cyhoedd, ond hefyd i'r sefydliadau rhanddeiliaid sy'n cymryd rhan eu hunain.
Canlyniad gwych o'r digwyddiad fu ymgysylltiad newydd rhanddeiliaid allweddol â grŵp Sicrhau Ansawdd (SA) rhanbarthol Gogledd Cymru.