Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i Ddathlu 20 Mlynedd o WASPI!

Dydd Llun, 10 Tachwedd 2025

Nodwch y Dyddiad: Dewch i Ddathlu 20 Mlynedd o WASPI!

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad arbennig i ddathlu dau ddegawd o Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI).

Bydd agenda lawn a diddorol yn cynnwys arweinwyr y diwydiant ym maes diogelu data a llywodraethu gwybodaeth, a phrif araith gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae WASPI yn esiampl wych o ragoriaeth ym maes rhannu data yng Nghymru, ac mae llwyddiant y cytundeb wedi’i seilio ar gydweithio. Dyna pam y byddwn ni hefyd yn cynnal seremoni wobrwyo fel rhan o’r digwyddiad, i gydnabod cyfraniadau amhrisiadwy ein rhanddeiliaid.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu gyda chi!

Dyddiad: Dydd Llun, 10 Tachwedd 2025

Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd

Mwy o fanylion i ddilyn, ond cofiwch gadw’r dyddiad ar gyfer y digwyddiad carreg filltir arwyddocaol hwn!