Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Newydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - rhannu data i ddiogelu plant

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y sector addysg ar rannu data ar gyfer diogelu: Rhannu gwybodaeth i ddiogelu plant a phobl ifanc yn y sector addysg yn y DU | Swydd]

Nod y canllawiau newydd hyn yw rhoi hyder i staff mewn lleoliadau addysg rannu gwybodaeth i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed.

 

Mae gwasanaeth Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru yn arbennig o falch bod y neges "Mewn argyfwng, peidiwch ag oedi cyn rhannu gwybodaeth i ddiogelu plentyn neu berson ifanc" wedi'i nodi'n glir, ac mae’r Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru yn ailadrodd hyn yn ein templedi a'n canllawiau a gynhyrchwyd.

 

Er eu bod wedi'u hanelu at y sector addysg, gall y canllawiau fod o ddefnydd i sectorau eraill hefyd.

 

Roedd Gwasanaeth Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru wrth ei fodd y cyfeirir ato yn y canllawiau fel fframwaith i sefydliadau ei ddefnyddio yng Nghymru, cael y cyfle i roi adborth a chyfrannu at yr astudiaethau achos yn y canllawiau hyn.

 

Yn ogystal â'r canllawiau dwyieithog, mae adnoddau ychwanegol wedi'u darparu gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar ei hymgyrch gysylltiedig Meddwl, Gwirio, Rhannu (gweler yr enghraifft uchod) y gallai sefydliadau fod eisiau eu defnyddio wrth rannu'r wybodaeth hon o fewn ei sefydliadau.