Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad WASPI "Beth Nesaf" Wedi'i Gyhoeddi

Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wedi cyhoeddi’r Adroddiad Beth Nesaf heddiw - crynodeb cynhwysfawr o adborth partneriaid a gasglwyd yn ystod yr ymarfer Beth Nesaf a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn Pen-blwydd y fframwaith yn 20 oed.

Mae'r adroddiad yn egluro'r adborth a ddarparwyd, yn amlinellu pa waith y mae'r Gwasanaeth yn ei gyflawni ar hyn o bryd yn y meysydd hyn ac yn tynnu sylw at waith posibl yn y dyfodol y gellid ei wneud i gefnogi rhannu gwybodaeth yng Nghymru.

Mae Adroddiad Beth Nesaf WASPI cyflawn ar gael yma nawr:

Cliciwch yma i weld yr adroddiad.

Mae Gwasanaeth WASPI yn diolch i bawb a gyfrannodd eu hadborth, p’un ai trwy’r stondin ryngweithiol yn nigwyddiad ei Benblwydd yn 20 oed neu drwy’r arolwg dilynol. Mae eich mewnwelediadau’n parhau i lunio datblygiad dull cydweithredol Cymru gyfan o rannu gwybodaeth.

Am unrhyw gwestiynau neu i rannu adborth pellach, cysylltwch â Gwasanaeth WASPI - waspiservice@wales.nhs.uk