1,000 o Lofnodion i Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru!
Mae’n bleser gan dîm Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru gyhoeddi bod nifer y llofnodion i Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wedi cyrraedd dros 1,000.
Mae hon yn garreg filltir enfawr i'r gwasanaeth, ac mae'n tynnu sylw at lwyddiant y fframwaith wrth sicrhau bod sefydliadau ledled Cymru yn defnyddio arferion gorau'r cytundeb wrth rannu gwybodaeth rhwng sefydliadau.
Mae cyrraedd y garreg filltir hon hefyd yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru a rhannu gwybodaeth ledled Cymru.
Ar draws y 1,000+ o’r rhai a lofnododd, mae cynrychiolaeth o sefydliadau o bob sector a maint, gan gynnwys Byrddau Iechyd Cymru, Awdurdodau Lleol, Heddluoedd, gwasanaethau tân ac achub, addysg ac elusennau.
Rydym wrthi’n adolygu’r dudalen “Sefydliadau sy’n Cymryd Rhan” ar ein gwefan i wneud hyn yn gliriach er mwyn gweld pa sefydliadau sydd wedi cofrestru ar gyfer y fframwaith.