Porth Rhannu Gwybodaeth - ISG
Croeso i dudalen lanio ISG WASPI. Yma gallwch gofrestru i ddefnyddio'r system a chael mynediad at yr holl ganllawiau ISG sydd ar gael sy'n seiliedig ar WASPI.
Beth yw’r Porth Rhannu Gwybodaeth (ISG)?
Mae’r Porth Rhannu Gwybodaeth (ISG) yn system sydd wedi’i dylunio i gynorthwyo sefydliad i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data; gan helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu, ei rheoli a'i phrosesu'n gywir. Mae'n canoli ac yn rhannu adnoddau allweddol mewn ffordd sy'n hygyrch ac yn dryloyw.
Mae platfform ISG bellach yn esblygu, trwy waith gan dîm ISG a Gwasanaeth WASPI, i hwyluso rhannu data wedi'i symleiddio yng Nghymru. Bydd yn gwneud hyn drwy gynyddu gwelededd llwybrau rhannu data presennol, symleiddio prosesau i greu Protocol Rhannu Gwybodaeth WASPI, a chynhyrchu hysbysiadau i sicrhau bod protocolau rhannu gwybodaeth yn cael eu hadolygu gan sefydliadau yn fwy effeithiol. Bydd swyddogaeth WASPI yn cael ei chyflwyno fesul sawl cam:
Cam 1 – Mynediad rhanbarthol i bob Grŵp Sicrwydd Ansawdd WASPI ddefnyddio'r ISG fel y gofrestr ranbarthol/genedlaethol.
Cam 2 – Mynediad cynyddol i’r gofrestr ym mhob rhanbarth.
Cam 3 – Llifoedd gwaith wedi'u sefydlu i alluogi creu ac adolygu protocolau rhannu gwybodaeth o fewn yr ISG a llifo gwaith i Wasanaeth WASPI a phob Grŵp Sicrwydd Ansawdd Rhanbarthol.
Y Sefyllfa Bresennol:
Cyfnod 1
Ar hyn o bryd, mae'r ISG yn dod ar gael i'w ddefnyddio fel Cofrestr Genedlaethol ar gyfer Rhannu Data yng Nghymru. Mae Gwasanaeth WASPI yn gweithio i uwchlwytho pob protocol rhannu gwybodaeth WASPI presennol i'r ISG fel eu bod ar gael i'w gweld pan fyddwch chi'n cyrchu'r system.
Defnyddiwch y Porth Rhannu Gwybodaeth fel eich Cofrestr Rhannu Data Genedlaethol ond byddwch yn ymwybodol, ar hyn o bryd, fod y prosesau WASPI presennol yn parhau mewn perthynas â chreu a sicrhau Protocolau Rhannu Gwybodaeth.
Bydd unrhyw Brotocolau Rhannu Gwybodaeth newydd/wedi'u hadolygu yn cael eu hychwanegu/diweddaru yn y Porth Rhannu Gwybodaeth gan y Gwasanaeth WASPI.
Ffurflen Gofrestru
I gofrestru i'r ISG, cwblhewch y ffurflen gofrestru, drwy gyrchu’r ddolen isod.
Canllawiau i Ddefnyddwyr
Am ragor o wybodaeth ac arweiniad ar ddefnyddio'r system ISG, cyfeiriwch at y dogfennau canllaw a'r clipiau fideo isod.
Asesiad o Effaith ar Ddiogelu Data y System ISG
Gyda gweithrediad graddol system newydd, mae Gwasanaeth WASPI wedi ymrwymo i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) ailadroddus.
Mae'r DPIA ac unrhyw risgiau cysylltiedig yn cael eu hadolygu'n barhaus wrth i'r system gael ei datblygu ac, felly, maent ar gael ar gais.
Cyswllt
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am system ISG neu faterion WASPI eraill, cysylltwch â'r tîm ar: waspiservice@wales.nhs.uk