Grŵp Sicrhau Ansawdd De Cymru
Cwrdd â'r Cadeirydd
Mae grŵp Sicrhau Ansawdd Rhanbarthol De Cymru dan gadeiryddiaeth Mark Russell o Heddlu De Cymru.
Dywed Mark “Fel Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth Heddlu De Cymru, rwy'n credu'n wirioneddol fod y cysondeb a ddarperir gan fframwaith WASPI wrth ddatblygu cytundebau rhannu data gyda phartneriaid yng Nghymru yn hanfodol bwysg. Gyda chyflwyniad y datrysiad Porth Rhannu Gwybodaeth electronig (ISG), nid yw datblygu cytundebau newydd a rheoli cytundebau rhannu data presennol erioed wedi bod yn haws.
Mae'r Grŵp Sicrhau Ansawdd yn darparu lefel o sicrwydd bod unrhyw brotocolau rhannu gwybodaeth y mae sefydliadau'n llofnodi wedi cael eu hadolygu gan unigolion sydd â phrofiad mewn Llywodraethu Gwybodaeth.
Mae grŵp Sicrhau Ansawdd De Cymru yn gyfrifol am:
Cymeradwyaeth Strategol: Rhoi'r sicrwydd a'r cymeradwyaeth derfynol i ISPs rhanbarthol fel y gellir eu defnyddio gan bartneriaid yn eu rhanbarth.
Deallusrwydd lleol: Nodi a yw llif data arfaethedig yn cyd-fynd â threfniadau lleol presennol neu bartneriaethau strategol.
Cynnal Ymddiriedaeth: Gweithredu fel gwarcheidwaid ymddiriedaeth y cyhoedd drwy sicrhau bod rhannu yn dryloyw ac yn gymesur i'r dinasyddion yn eu hardal.
Rhestr aelodaeth
Mae Grŵp Sicrhau Ansawdd De Cymru yn elwa o gael aelodau o'r holl brif sefydliadau rhannu gwybodaeth yn y rhanbarth, sy'n dod â'u profiad o gydymffurfiaeth diogelu data yn y byd go iawn i'r drafodaeth ar bob Protocol Rhannu Gwybodaeth.
Mae'r sefydliadau canlynol yn aelodau o'r Grŵp ar hyn o bryd:
Rhestr aelodaeth
Mae Grŵp Sicrhau Ansawdd De Cymru yn elwa o gael aelodau o'r holl brif sefydliadau rhannu gwybodaeth yn y rhanbarth , sy'n dod â'u profiad o gydymffurfiaeth diogelu data yn y byd go iawn i'r drafodaeth ar bob Protocol Rhannu Gwybodaeth.
Mae'r sefydliadau canlynol yn aelodau o'r Grŵp ar hyn o bryd:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Cyngor Dinas Caerdydd
Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth Ei Fawrhydi
Cyngor Bro Morganwg
Cyngor Abertawe
Heddlu De Cymru
Barnados
Cylch Gorchwyl y Grŵp
Oes gennych chi gwestiwn i'r Grŵp? Gofynnwch i'r Cadeirydd drwy: waspiservice@wales.nhs.uk