Dathlu Diwylliant a Chydweithio Dathlu 20 Mlynedd o Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI).
Mae 2025 yn garreg filltir bwysig: 20fed pen-blwydd Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI). Mae hirhoedledd WASPI yn dyst i’w rôl bwysig wrth greu fframwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn foesegol. Drwy hyrwyddo arferion gorau a darparu canllawiau clir, mae WASPI wedi adeiladu sylfaen o ymddiriedaeth, gan alluogi gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu cymorth mwy integredig ac ymatebol ledled Cymru.
Mae’r achlysur arbennig hwn yn gyfle hollbwysig i fyfyrio ar, a dathlu, dau ddegawd o gydweithio ymroddedig yn hyrwyddo rhannu gwybodaeth ac egwyddorion llywodraethu gwybodaeth ledled Cymru.
Mae’n bwysig cydnabod yr effaith gadarnhaol iawn y mae WASPI wedi’i chael ac i arddangos ei rôl allweddol wrth hyrwyddo rhannu data personol effeithiol a chyfreithlon, gan sicrhau canlyniadau gwell i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth ledled Cymru.
Ers dau ddegawd, mae WASPI wedi bod yn gonglfaen i sefydliadau ledled Cymru, gan eu grymuso i rannu gwybodaeth bersonol hanfodol yn effeithiol ac yn gyfreithlon. Mae WASPI wedi ymrwymo i wella iechyd, addysg, diogelwch, atal troseddau a llesiant cymdeithasol, ac mae wedi meithrin dull cyson a chyfrifol o rannu data, gan addasu i dirwedd esblygol o newid deddfwriaethol a disgwyliadau cynyddol.
Mae perthnasedd ac effeithiolrwydd parhaus WASPI dros ddau ddegawd, yn enwedig o fewn maes deinamig diogelu data, yn brawf o’i hyblygrwydd a’i wydnwch cynhenid, ​​​​ac mae hyn yn nodwedd sylfaenol o lwyddiant y Cytundeb. Mae’n tanlinellu bod WASPI yn fwy na set statig o reolau; mae’n gweithredu fel fframwaith deinamig sy’n hwyluso darpariaeth ac integreiddio gwasanaethau cyhoeddus yn barhaus.
Ymunwch â Ni i Ddathlu WASPI 20
Mae 2025 yn nodi 20fed pen-blwydd Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI). P'un a yw pobl yn ymwybodol o Gytundeb Cymru ai peidio, mae'n debygol bod ein gwaith a'n bywydau beunyddiol wedi cael eu heffeithio mewn ffordd gadarnhaol ganddo mewn rhyw ffordd. Ers dau ddegawd, mae WASPI wedi darparu modd i sefydliadau rannu gwybodaeth am bobl mewn ffordd gyfreithlon ac effeithiol fel y gellir darparu gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y person.
Mae'n bwysig myfyrio ar yr effeithiau cadarnhaol y mae WASPI wedi'u cael a'u dathlu. Byddwn yn nodi'r 20fed pen-blwydd, a bydd eich mewnwelediadau yn amhrisiadwy wrth arddangos rôl y Cytundeb wrth hyrwyddo rhannu data personol effeithiol a chyfreithlon er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru.
Os oes gennych chi stori newyddion dda am y ffordd y mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cael effaith gadarnhaol, rhowch wybod i ni. Edrychwn ymlaen at glywed am eich llwyddiannau a dathlu'r garreg filltir hon gyda'n gilydd!
Mae llwyddiant WASPI wedi’i seilio ar ymgysylltiad ac ymdrech ei randdeiliaid. Mae’n glod i’n rhanddeiliaid bob tro y mae fframwaith WASPI wedi cael ei ddefnyddio i lywio newid, i sbarduno trawsnewid go iawn mewn gwasanaethau mewn ffordd sy’n mynd y tu hwnt i gydymffurfio â diogelu data yn unig, i gyflawni buddion cymdeithasol pendant i bobl Cymru.
Wrth i ni edrych yn ôl ar 20 mlynedd o gyflawniad, rydym hefyd yn edrych ymlaen at ddyfodol lle mae rhannu gwybodaeth yn gyfrifol yn parhau i rymuso newid cadarnhaol yng Nghymru. Mae tîm Gwasanaeth WASPI yn parhau i fod wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi pob sefydliad yng Nghymru i rannu data personol yn effeithiol ac yn gyfrifol, gan gryfhau ymdrechion cydweithredol a darparu buddion pendant i bobl Cymru.
Rydym wrthi’n trefnu dathliad yn ddiweddarach eleni felly nodwich y dyddiad, ond dyma rai o’r pethau y mae Gwasanaeth WASPI wedi bod yn eu gweneud i ddathlu.
Mae llwyddiant dwfn WASPI wedi'i seilio ar ymgysylltiad ac ymdrech ei randdeiliaid. Dyma pam rydym yn gyffrous i gynnal Gwobrau Pen-blwydd WASPI yn 20 oed ar 10 Tachwedd 2025. Bwriad y Gwobrau yw cydnabod ymroddiad unigolion a thimau sydd wedi hyrwyddo WASPI dros y ddau ddegawd diwethaf.