Cysylltu a'r tim
Cysylltwch â'r tîm drwy anfon neges e-bost at y waspiservice@wales.nhs.uk
Mae tîm Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn gweithio ar y cyd â'r pum grŵp sicrhau ansawdd rhanbarthol i sicrhau bod rhannu barn a syniadau yn agored ac yn onest yn digwydd, a fyddai'n helpu i gadw WASPI yn effeithiol ac yn berthnasol fel y ffordd i sefydliadau rannu gwybodaeth bersonol yng Nghymru, gan gynnwys arwain y gwaith parhaus o wella egwyddorion y Cytundeb drwy Fwrdd Rheoli WASPI.
Rydym yn parhau i ddarparu'r gwiriad cychwynnol yn rhan o'r broses sicrhau ansawdd ar gyfer Protocolau Rhannu Gwybodaeth ac yn cyhoeddi ISPs sicr i'r wefan i annog y dull 'gwneud unwaith a rhannu'. Rydym ar gael i roi cyngor a chymorth ar ddatblygu ISP. Aelodau presennol y tîm yw:
Dave Parsons, Rheolwr Cod WASPI
Dave Parsons yw Rheolwr Cod Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru ac mae ganddo gyfrifoldeb dros ddatblygiad strategol a chyflawni gweithredol fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth i brosiectau a rhaglenni Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Chymru gyfan ac i randdeiliaid eraill yn y sector iechyd yng Nghymru.
Mae Dave wedi gweithio’n helaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus ers dros 20 mlynedd ac mae wedi gweithio’n fwy penodol ym meysydd Diogelu Data a Llywodraethu Gwybodaeth am y 20 mlynedd diwethaf.
Marcus Sandberg, Rheolwr Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth
Mae Marcus yn Rheolwr Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth,mae wedi goruchwylio’r adolygiad mawr o’r fframwaith yn 2018 yn dilyn y newidiadau i ddeddfwriaeth diogelu data, yr adolygiad o’r fframwaith i adlewyrchu’r newidiadau i God Ymarfer Rhannu Data Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, a datblygiad y Cod Ymddygiad.
Yn ogystal â’i gyfrifoldeb am ddatblygu, hyrwyddo a gwella’r fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru yn barhaus, mae Marcus yn rheoli swyddogaethau Llywodraethu Gwybodaeth IGDC a Chymru Gyfan fel aelod o dîm Llywodraethu Gwybodaeth IGDC.
Ben Tuckett, Swyddog Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth
Ben yw aelod diweddaraf tîm DHCW. Mae’n cefnogi’r grwpiau sicrhau ansawdd rhanbarthol, yn rheoli’r gweithrediadau o ddydd i ddydd yn seiliedig ar WASPI ac yn cynnal gwefan WASPI. Yn ogystal, mae Ben yn cynnal gwiriadau cychwynnol ar yr holl brotocolau rhannu gwybodaeth sy’n cyrraedd y tîm.
Huw Pierce Pritchard, Rheolwr Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth
Mae Huw wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau sector cyhoeddus ar draws y DU mewn rolau arwain Llywodraethu Gwybodaeth. Ymunodd ag IGDC o lywodraeth leol, lle’r oedd yn Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth ac yn Swyddog Diogelu Data.
Ar hyn o bryd, mae Huw yn gweithio ar ddatblygu fframwaith WASPI ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.
Hannah James, Swyddog Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth
Mae Hannah yn Swyddog Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth sy'n gweithio'n bennaf i gefnogi datblygiad a gweithrediad y Porth Rhannu Gwybodaeth (ISG) yn IGDC.
Mae Hannah yn rheoli tasgau prosiect ar gyfer y Porth Rhannu Gwybodaeth megis datblygu dogfennau cynllunio, cysylltu â datblygwyr, a chydlynu cyfarfodydd, ochr yn ochr â chynorthwyo gydag ymholiadau a thasgau llywodraethu gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithredu mwy cyffredinol.
Cysylltwch â'r tîm drwy anfon neges e-bost at y tîm yn uniongyrchol neu drwy'r post i’r cyfeiriad canlynol:
Tîm WASPI
6ed Llawr, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Tŷ Glan-yr-Afon
21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
Caerdydd
CF11 9AD