Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau Ansawdd

Sicrhau Ansawdd (SA) yw’r broses a ddefnyddir i wirio Protocolau Rhannu Gwybodaeth (ISPs) a Chytundebau Datgelu Data (DDAs) o ran y defnydd cyson o dempledi Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) a defnydd priodol y Canllaw ar Ddatblgyu ISP neu gytundeb arall. Hyd yn hyn, mae pum grŵp rhanbarthol wedi cael eu sefydlu i oruchwylio’r broses sicrhau ansawdd mewn perthynas â Phrotocolau Rhannu Gwybodaeth a Chytundebau Datgelu Data y mae rhanddeiliaid wedi’u nodi fel rhan allweddol o fframwaith WASPI. Mae Tîm WASPI yn cydweithio â grwpiau rhanbarthol i sicrhau bod safbwyntiau a syniadau yn cael eu rhannu mewn ffordd agored a diffuant er mwyn sicrhau bod WASPI yn parhau i fod yn effeithiol ac yn berthnasol.

Mae trosolwg o’r grwpiau rhanbarthol ar gael fan hyn.

Amserlen o Sicrwydd Ansawdd Rhanbarthol. Gellir dod o hyd i gyfarfodydd grŵp yma.

 

Sicrhau Ansawdd Protocolau Rhannu Gwybodaeth (ISP)

Gan gadw llygad ar gynaliadwyedd, mae’r dogfennau canlynol wedi cael eu cyhoeddi er mwyn cynorthwyo sefydliadau trwy’r broses o sicrhau ansawdd ISP.

Rhestr Wirio Sicrhau Ansawdd

Mae tîm canolog WASPI a’r grwpiau rhanbarthol yn cydweithio er mwyn sicrhau datblygiad WASPI yn y dyfodol ac i hyrwyddo arfer da wrth rannu gwybodaeth bersonol.

Dylai'r holl Brotocolau Rhannu Gwybodaeth a gynhyrchir gael eu cyflwyno i waspiservice@wales.nhs.uk i ddechrau'r broses Sicrhau Ansawdd.