WASPI ar y rhestr fer ar gyfer 5 Gwobr PICCASO

 Mae Gwasanaeth WASPI yn falch iawn o rannu bod y fframwaith WASPI wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 5 Gwobr PICCASO (Preifatrwydd, Diogelwch Gwybodaeth, Cydymffurfiaeth, Diwylliant, Deallusrwydd Artiffisial, Strategaeth a Gweithrediadau) Ewrop.

Mae WASPI wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau canlynol:

  • Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn
  • Gwobr Gwella Diwylliant Preifatrwydd Gorau
  • Gwobr y Rhaglen Preifatrwydd Orau
  • Rhaglen Llywodraethu Data a Rheoli Cofnodion y Flwyddyn

 Yn ogystal, mae Dave Parsons, Rheolwr Cod WASPI, hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cydnabod Rhagoriaeth yn y maes.

 

Mae'r enwebiadau'n dilyn enwi y Gwasanaeth WASPI yn Dîm Preifatrwydd y Flwyddyn 2025: Cwmni Cyhoeddus yn PICCASO Ewrop.

 Mae’r cydnabyddiaeth o WASPI ar draws sawl categori gwobrau Ewropeaidd mawreddog yn dangos cryfder y fframwaith a'i rôl wrth hyrwyddo rhannu gwybodaeth ddiogel, cyfreithlon a chyson.

 Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 2 Rhagfyr 2026.