Cyhoeddwyd Cod Ymddygiad GDPR y DU WASPI ar gyfer Protocolau Rhannu Gwybodaeth

Mae Cod Ymddygiad GDPR y DU newydd gan WASPI yn rhoi fframwaith cliriach a mwy cyson i sefydliadau ar gyfer rhannu gwybodaeth bersonol yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn hyderus.

Cryfhau Rhannu Gwybodaeth yn Ddiogel ac yn Gyfreithlon ledled Cymru

Mae Cytundeb Cymru ar Rannu Gwybodaeth Bersonol (WASPI) yn falch o lansio Cod Ymddygiad WASPI ar gyfer Protocolau Rhannu Gwybodaeth (ISP) yn unol â Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) y DU. Mae'r Cod yn darparu fframwaith cadarn i sefydliadau i gefnogi rhannu gwybodaeth yn gyfreithlon, yn dryloyw ac yn atebol ledled Cymru.

Datblygwyd y Cod o dan Erthygl 40 o GDPR y DU ac fe'i cynlluniwyd i helpu sefydliadau i gymhwyso gofynion diogelu data yn gyson wrth rannu gwybodaeth bersonol ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, diogelu a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae'n cyflwyno mesurau sicrwydd gwell trwy ddefnyddio templed WASPI (ISP) yn orfodol, monitro parhaus, gofynion llywodraethu a mecanweithiau adolygu rheolaidd.

Gyda mwy na 1,000 o sefydliadau eisoes wedi ymrwymo i Gytundeb WASPI, mae'r Cod newydd yn cynrychioli'r cam nesaf wrth gryfhau hyder mewn trefniadau rhannu gwybodaeth tra'n diogelu hawliau a rhyddid unigolion.

 

Cefnogi Canlyniadau Gwell Drwy Rannu Gwybodaeth yn Gyfrifol

Mae rhannu gwybodaeth yn effeithiol yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau integredig ac amddiffyn unigolion sy'n agored i niwed. Gall methu â rhannu gwybodaeth berthnasol yn briodol greu risgiau sylweddol, yn enwedig mewn sefyllfaoedd diogelu lle gall mynediad amserol at wybodaeth fod yn hanfodol. Mae Cod WASPI yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau hyn drwy ddarparu dull clir, cydnabyddedig a chyson i sefydliadau o rannu gwybodaeth gydfuddiannol a sicrhau bod gweithgareddau rhannu data yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.

 

Cryfhau Atebolrwydd

Mae Cod Ymarfer GDPR y DU yn cyflwyno chwe gofyniad allweddol sy'n ymdrin â llywodraethu, defnyddio templedi cymeradwy, sicrhau ansawdd, atebolrwydd, adolygiadau o drefniadau rhannu gwybodaeth a chydymffurfio â monitro parhaus; mae hyn yn rhoi fframwaith cydnabyddedig i sefydliadau sy'n cymryd rhan i ddangos eu bod yn cydymffurfio ag egwyddorion allweddol GDPR y DU, gan gynnwys cyfreithlondeb, tryloywder, atebolrwydd, diogelwch a lleihau data.

 

Dywedodd Dave Parsons, Rheolwr Cod WASPI:

"Mae Cod Ymddygiad WASPI ar gyfer Protocolau Rhannu Gwybodaeth (o dan GDPR y DU) yn gam sylweddol ymlaen wrth gefnogi sefydliadau i rannu gwybodaeth yn hyderus, yn gyson ac yn gyfreithlon. Drwy ddarparu safonau clir, trefniadau llywodraethu cadarn a monitro annibynnol, mae'r Cod yn helpu sefydliadau i gyflawni eu cyfrifoldebau o ran rhannu gwybodaeth tra'n cynnal ymddiriedaeth y bobl y maent yn eu gwasanaethu. Yn y pen draw, bydd y Cod yn cefnogi canlyniadau gwell i unigolion drwy gydweithio mwy effeithiol rhwng sefydliadau ac adolygiadau rheolaidd o arferion rhannu data rhyngddynt.

"Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i gydweithwyr o Dîm Cod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a Thîm ICO Cymru am eu cefnogaeth helaeth wrth ddatblygu'r Cod Ymddygiad hwn (o dan GDPR y DU) sydd wedi'i gymeradwyo; dyma'r Cod Ymddygiad cyntaf ar draws y DU i gwmpasu partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

"Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â'r ICO i sicrhau bod gwasanaeth WASPI yn cael ei sefydlu fel Corff Monitro annibynnol, ac at gefnogi partneriaid sy'n gwneud cais am aelodaeth o'r Cod yn ystod y misoedd nesaf."
 

Dywedodd Chris Hogan, Pennaeth Strategaeth Reoleiddio yn yr ICO:

"Rydym yn falch o gefnogi Cod Ymddygiad WASPI a fydd yn helpu i sicrhau rhannu data cyfrifol, cyfreithlon ac atebol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Wedi'i gymeradwyo o dan Erthygl 40 o GDPR y DU, mae'n adeiladu ar arfer da presennol o fewn fframwaith WASPI sefydledig, gan roi ffordd glir a chydnabyddedig i sefydliadau ddangos atebolrwydd, tryloywder a defnydd cyfrifol o ddata. Mae'r math hwn o ddull cyson yn helpu i hybu a chynnal ymddiriedaeth y cyhoedd, yn enwedig mewn meysydd fel diogelu, iechyd a gofal cymdeithasol, lle gall rhannu gwybodaeth yn effeithiol fod yn hollbwysig. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda WASPI wrth iddynt symud hyn ymlaen."


Rhagor o wybodaeth

 

I gael rhagor o wybodaeth am God Ymddygiad WASPI o dan GDPR y DU, ewch i'n tudalennau gwe:

www.waspi.gov.wales